Mae corff dyn 43 oed wedi ei ddarganfod ar Draeth Pentywyn yn Sir Gaerfyrddin.
Bu’r heddlu yn chwilio am Stephen Amery wedi iddo gael ei weld am y tro olaf yng Nghaerfyrddin ar Ionawr 17, a bu’r teulu yn apelio am wybodaeth amdano.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys: “Wrth chwilio am Stephen Amery, dyn ar goll o Gaerfyrddin, daethpwyd o hyd i gorff dyn ar Draeth Pentywyn.
“Rydym wedi rhoi gwybod i deulu teulu Mr Amery ac nid yw’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.
“Hoffai’r teulu ddiolch i’r cyhoedd am yr holl help a’r gefnogaeth gafwyd.”