Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd cyffur newydd ar gael i bobol sy’n dioddef o ganser y fron.

Bellach, bydd y cyffur Perjeta (pertuzumab) ar gael i drin canser y fron sydd wedi datblygu – pan fydd y canser yn dychwelyd a bod dim modd ei drin neu os ydyw wedi lledaenu i rannau eraill o’r corff.

Yn ôl y Llywodraeth, gallai’r newyddion fod o fudd i hyd at 50 o fenywod y flwyddyn yng Nghymru.

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi dweud y bydd yn rhaid i bob bwrdd iechyd yng Nghymru sicrhau y bydd Perjeta ar gael o fewn 60 diwrnod.

Sefydliad cenedlaethol yn argymell y cyffur

Daw’r cyhoeddiad wedi i’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ddweud y dylai’r cyffur fod ar gael fel mater o drefn.

“Rwy’n falch y bydd Perjeta (pertuzumab) ar gael fel mater o drefn ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru i bobol sy’n dioddef o ganser datblygedig y fron.

“Mae ‘Cronfa Triniaethau Newydd’ Llywodraeth Cymru, sy’n werth £80m, yn mynd ati i sicrhau bod mwy o feddyginiaethau ar gael yn gyflymach nag erioed.

“Ar gyfartaledd, mae meddyginiaethau newydd bellach ar gael 10 diwrnod yn unig ar ôl eu hargymell. Felly, mae pobol sy’n dioddef o gyflyrau lle mae bywyd yn y fantol yn cael y meddyginiaethau diweddaraf yn gyflymach o lawer pan fo’u hangen arnyn nhw.”