Mae heddlu yn apelio am wybodaeth yn dilyn tân ar fferm yn Sir y Fflint lle bu farw sawl anifail.

Cafodd swyddogion eu galw i’r digwyddiad ger Treffynnon am 2.22yb heddiw (Chwefror 1).

“Mae’r tân yma wedi bod yn hynod o ddinistriol, gan ladd anifeiliaid a chael effaith ar fywoliaeth y ffarmwr,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru.

Mae heddlu’n trin y tân fel achos o losgi bwriadol.