Mae arweinydd Llafur Prydain, Jeremy Corbyn, yn Alyn a Glannau Dyfrdwy heddiw i gymryd rhan hyn ymgyrch y blaid yn yr isetholiad yno.

Mae hynny’n tynnu sylw ychwanegol at y ffaith fod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cadw draw hyd yn hyn, er mai isetholiad ar gyfer y Cynulliad yw hwn.

Fe fydd Jeremy Corbyn yn ymgyrchu ar ran Jack Sargeant, mab y cyn AC, Carl Sargeant, a laddodd ei hun ar ôl cael y sac o Lywodraeth Cymru a chael ei gyhuddo o ymddwyn yn amhriodol at ferched.

‘Er mwyn gwerthoedd Dad’

Mewn cyfweliad yng nghylchgrawn Golwg heddiw, mae Jack Sargeant yn dweud ei fod yn sefyll er mwyn cynnal yr un gwerthoedd ag oedd gan ei dad.

“Dw i’n sicr yn meddwl y byddai’n edrych i lawr nawr ac y byddai’n falch o be’r ydyn ni’n ei wneud,” meddai. “Nid jyst fi ond y gymuned i gyd yn Alyn a Glannau Dyfrdwy.”

Mae tri ymchwiliad ar droed ynglŷn ag achos Carl Sargeant – cwest, ymchwiliad i’r ffordd y cafodd y cwynion yn ei erbyn eu trin ac un arall i honiad fod y Prif Weinidog Carwyn Jones wedi camarwain y Cynulliad trwy wadu bod honiadau o fwlio wedi eu gwneud yn 2014 gan Carl Sargeant ac eraill.

Doedd Carwyn Jones ddim wedi mynd i angladd Carl Sargeant, yn un ôl â dymuniadau’r teulu, ond mae’n mynnu ei fod wedi gweithredu’n gywir wrth ddelio â’r cwynion ac wrth ddiswyddo’r cyn-Weinidog.

  • Y prif ymgeiswyr eraill yw: Sarah Atherton (Ceidwadwyr) Carrie Harper (Plaid Cymru), Donna Lalek (Dem Rhydd), Duncan Rees (Y Blaid Werdd)
  • Cyfweliad gyda Jack Sargeant ac etholwyr lleol yn Golwg