Mae ymdrech is-ysgrifennydd yn Swyddfa Cymru i siarad Cymraeg yn Nhŷ’r Cyffredin wedi arwain at fonllefau o chwerthin… gyda’i fos, Ysgrifennydd Cymru, ymysg y rhai a oedd yn gweld yr ochr ddoniol i’r sefyllfa.

Wrth ddechrau siarad wrth y ddarllenfa heddiw, fe ddywedodd Stuart Andrew yn Gymraeg: “Diolch yn fawr, Mr Llefarydd, a dw i’n ddiolchgar i gydweithwyr am y croeso cynnes.”

Roedd chwerthin i’w glywed yn syth bin – ac Alun Cairns yn nodio ac yn chwerthin y tu ôl i’w gyd-aelod.

Ond fe aeth y chwerthin yn uwch pan ddaeth ymateb gan Hugh Gaffney, Aelod Seneddol Llafur dros Coatbridge, Chryston a Bellshill yn dweud “Och ey the noo”.

Mae fideo o’r digwyddiad wedi’i rannu’n eang ar wefan gymdeithasol Twitter:

https://twitter.com/twitter/statuses/958678503695749120

Mae gan Aelodau Seneddol yr hawl i siarad Cymraeg mewn rhai trafodaethau yn San Steffan ers mis Chwefror y llynedd.

Bryd hynny, dywedodd Alun Cairns ei fod “wrth ei fodd” fod y rheolau wedi cael eu newid, ei bod yn “hanfodol bwysig” fod trafodaethau i’w clywed yn y ddwy iaith, a’i fod yn “gobeithio y bydd Aelodau Seneddol sy’n gallu siarad Cymraeg yn dewis defnyddio’r gwasanaeth hwn er mwyn hybu’r Gymraeg yn y Senedd.”

Swyddfa Cymru

Mae Stuart Andrew newydd ei benodi olynu Guto Bebb yn Swyddfa Cymru, ac yntau’n Gymro Cymraeg a gafodd ei addysg yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy, Ynys Môn.

Mae bellach yn Aelod Seneddol dros Pudsey yn Swydd Efrog ac yn gyn-aelod o Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan.

Yn fwyaf diweddar, fe fu’n Ysgrifennydd i Gadeirydd y Ceidwadwyr, Patrick McLoughlin ac yn is-Gadeirydd y blaid. Mae’n gefnogwr brwd o Brexit.