Mae clwb pêl-droed Pontrhydfendigaid wedi colli eu rheolwr yn ddisymwth, ac mae’r chwaraewyr a’r cefnogwyr mewn sioc.

Fe ymunodd Terry Davies â’r clwb bron i dair blynedd yn ôl, ac fe dreuliodd rhyw flwyddyn yn chwarae cyn dod yn aelod o’r tîm rheoli. Fe fu’n gyd-reolwr ar Bont FC yn ystod eu tymor diwethaf, pan enillon nhw’r gynghrair.

Roedd yn ei 40au cynnar, yn hanu o Aberystwyth, yn dad i bump o blant ond wedi gwahanu oddi wrth ei wraig. Mae ei farwolaeth yn ddirgelwch, ond does dim amgylchiadau amheus.

O ran ei waith bob dydd, roedd Terry Davies yn gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, a chyn fynny fe fu’n bostmon ac yn ddyn tân.

“Chwaraewr penigamp”

Yn ôl y cyflwynydd teledu a radio, Ifan Jones Evans, sy’n chwarae i Bont FC, roedd Terry Davies yn “chwaraewr penigamp”, yn “gymeriad hoffus a chwareus”, ac mi fydd ei farw yn “golled enfawr i’r clwb”.

“Oedd e’n teimlo rhyw agosatrwydd gyda’r clwb,” meddai Ifan Evans wrth golwg360. “Oedd e’n gallu uniaethu gydag ethos y clwb.

“Oedd e’n lico’r ffaith bod ni’n glwb lleol; ein bod ni’n grŵp o chwaraewyr agos fel ffrindiau, nid yn unig ar y cae – roedden ni’n gwneud llawer â’n gilydd oddi ar y cae…

“Roedd Terry’n credu’n gryf yn y ffaith bod chwaraewyr nid yn unig yn gyd-chwaraewyr ond hefyd yn cymysgu’n gymdeithasol.”

“Ergyd enfawr”

“Roedd e’n berson hyfryd dros ben, mae’n rhaid i fi ddweud,” meddai Richard ‘Dicky Mint’ Jones, Cadeirydd clwb pêl-droed y Bont wrth golwg360.

“Person mwyn, gyda pharch tuag at bawb. Roedd gwên ar ei wyneb e wastad. Mae’n gymaint o sioc, dw i ddim yn gwybod beth i ddweud. Ergyd enfawr.”

Fel hyn y cyhoeddodd y clwb farwolaeth Terry Davies ar wefan gymdeithasol Twitter: