Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn dweud bod rhannu gwybodaeth am negeseuon ebost rhyngddyn nhw ac Adam Price, yn benderfyniad “rhesymol”.

Daw’r sylw wedi i’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, ddyfynnu o gopïau o negeuon e-bost rhwng yr Aelod Cynulliad a’r Bwrdd yn ystod sesiwn lawn y Cynulliad.

Roedd Carwyn Jones wedi cael gafael ar yr ebyst yn dilyn cais am wybodaeth. Yn ôl llefarydd ar ran y Prif Weinidog doedd dim ceisiadau wedi’u cyflwyno am wybodaeth “sensitif”.

Bellach, mae wedi dod i’r amlwg bod yr Aelod Cynulliad yn ymgynghori â chyfreithwyr tros y mater. Mae’n cyhuddo’r Bwrdd Iechyd o fynd yn groes i’w hawliau diogelu data ac wedi galw arnyn nhw i “gywiro’r record”.

Y cefndir

Yn ystod dadl tros ddyfodol ysbytai gorllewin Cymru prynhawn ddoe (Ionawr 30), awgrymodd Adam Price bod y blaid Lafur yn anghytûn tros y mater.

Ond, fe ymatebodd y Prif Weinidog trwy ddyfynnu o gopïau o negeuon e-bost, oddi wrth Fwrdd Iechyd Hywel Dda at Adam Price, yn gofyn iddo am gyfarfod i drafod y mater.

Yn ôl Carwyn Jones, doedd Adam Price ddim wedi ymateb, ac felly “heb chwarae rhan yn y broses”.

Mae Adam Price yn dadlau bod y Prif Weinidog yn “ffeithiol anghywir”, ac wedi cyhuddo’r Bwrdd Iechyd o fynd yn groes i’w hawliau diogelu data.

Ymateb y bwrdd

“Fel rhan o gynllun Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol (TCS) mae’r Prif Weithredwr a’r Cadeirydd wedi cadw mewn cysylltiad gyda gwleidyddion lleol o bob plaid i’w briffio yn ystod cyfnodau priodol,” meddai llefarydd ar ran y Bwrdd Iechyd.

“Yn dilyn cais gan swyddogion Iechyd Llywodraeth Cymru, mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn ystyried ei fod yn rhesymol dan yr amgylchiadau i rannu gwybodaeth am ei ohebiaeth gyda gwleidyddion lleol yn gysylltiedig â gweithredoedd Cynllun TCS.

“Doedd cynnwys y trafodaethau yma ddim wedi’u cynnwys.”