Mae siop Marks & Spencer yn Fforestfach yn Abertawe yn un o wyth siop y cwmni fydd yn cau ym mis Ebrill.

 

Mae 468 o swyddi yn y fantol drwy wledydd Prydain o ganlyniad i raglen ail-strwythuro.

 

Fe fydd y cwmni’n cynnal ymgynghoriad, a’r disgwyl yw y bydd y staff yn cael cynnig swyddi mewn siopau cyfagos.

 

Mae’r cynlluniau’n rhan o weledigaeth y prif weithredwr newydd, Steve Rowe, sydd wedi cyhoeddi cynllun pum mlynedd.

 

Eisoes, mae’r gwaith yng nghanolfan ddosbarthu’r cwmni yn Llundain wedi dod i ben gan beryglu 380 o swyddi, ac mae gwaith technoleg gwybodaeth y cwmni’n cael ei gwblhau gan gwmni arall er mwyn arbed hyd at £30 miliwn y flwyddyn.

 

Dywedodd llefarydd fod “rhaid sicrhau’r cynnig gorau yn y llefydd cywir” ac y bydd “rhaid ystyried colli swyddi”.