Mae’r Aelod Cynulliad, Adam Price, yn derbyn cyngor cyfreithiol yn dilyn ei ffrae â’r Prif Weinidog yn siambr y Senedd brynhawn ddoe (Ionawr 30).

Yn ystod dadl danllyd am ddyfodol ysbytai gorllewin Cymru, fe awgrymodd Adam Price bod aelodau Llafur yn anghytûn ar y mater.

Ond fe ymatebodd Carwyn Jones trwy ddyfynnu o gopïau o negeuon ebost oddi wrth Fwrdd Iechyd Hywel Dda at Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn gofyn iddo am gyfarfod i drafod y mater.

Yn ôl Carwyn Jones, doedd Adam Price ddim wedi ymateb, ac felly “heb chwarae rhan yn y broses”.

Mae Adam Price yn dadlau bod y Prif Weinidog yn “ffeithiol anghywir”, ac yn dweud bod gan ei swyddfa gyfres o ebyst gan y Bwrdd Iechyd yn profi ei fod wedi ymdrechu i drefnu cyfarfod.

Hawliau diogelu data

“Mae’r cyngor cyfreithiol dw i wedi’i dderbyn yn nodi bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda o bosib wedi mynd yn groes i’r hawliau diogelu data sydd wedi’u rhoddi i mi, fy nghydweithiwr seneddol Jonathan Edwards, ac ein haelodau staff,” meddai Adam Price.

“Yn sgil cais, daeth Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd i’r Cynulliad i siarad â finnau [brynhawn dydd Mawrth], ac fe gyflwynais dystiolaeth o’r ohebiaeth rhwng ein swyddfeydd a fy nghais i gwrdd ag ef.

“Mewn ymgais i adfer ffydd, dw i’n siŵr bydd y Bwrdd Iechyd yn mynd ati nawr i gywiro’r record.”