Mae perchnogion busnes gwyliau yng Ngheredigion wedi penderfynu ailenwi eu cwmni – gan ddefnyddio enw Cymraeg eu fferm y tro hwn.

Roedd cwmni Mountain Sea View wedi achosi dipyn o gythrwfl yn gynharach yn y mis trwy sefydlu eu menter ar fferm Bwlcheinion yn Eglwys-fach. Roedd ganddyn nhw eu tudalen Facebook a’u gwefan, ond dim sôn o gwbwl am ‘Bwlcheinion’ ar gyfyl y rheiny.

Roedd arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ymhlith y cynghorwyr oedd wedi mynegi siom tros beidio defnyddio’r enw Cymraeg, yn enwedig gan mai’r rheswm oedd yn cael ei roi oedd fod yr enw Cymraeg yn rhy anodd i’w ynganu i Saeson ac ymwelwyr eraill.

“Fydden ni byth yn newid enw’r ffarm… byth,” meddai Alwyn Jenkins wrth golwg360, “ac mae’r holl fater hyn wedi’n ypsetio i.

“Bwlcheinion yw enw’r ffarm, dyna enw’r busnes ffarmio, a dyw hwnnw ddim yn newid. Mae pobol wedi bod yn cysylltu ar ôl darllen y stori… r’yn ni wedi cael llawer o bobol yn cysylltu…

“Felly, r’yn ni wedi penderfynu newid enw’r cwmni i ‘Bwlcheinion Sea View Pods’, ac r’yn ni yn y broses o setio’r website newydd lan, gan obeithio derbyn ein hymwelwyr cyntaf erbyn y Pasg y flwyddyn yma.”