Mae Aelod Seneddol De Clwyd wedi galw am Ymgynghoriad Cyhoeddus er mwyn clywed barn y cyhoedd am ba mor beryglus y maen nhw’n ystyried tân gwyllt.

Susan Elan Jones oedd yn arwain ddadl ar y pwnc yn Nhy’r Cyffredin ddydd Llun (Ionawr 29), ar ôl deiseb ag arni dros 100,000 o lofnodion alw am gyfyngu ar y gwerthiant o’r ffrwydron.

“Mae angen tystiolaeth go iawn arnom ni,” meddai Susan Elan Jones wrth ei chyd-Aelodau yn San Steffan. “Fe ddylai fod yna ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn i bobol ddweud eu barn yn gyhoeddus.

Fe alwodd hefyd am waharddiad ar werthu tân gwyllt, gan nodi eu bod yn gallu effeithio ar gyn-filwyr sy’n dioddef o drawma PTSD, plant ag awtistiaeth, ar anifeiliaid, ynghyd â phobol sy’n defnyddio cymorth clyw.

Mewn ymateb, mae’r Llywodraeth yn dweud mai ei nod hi yw sicrhau bod pobol yn gallu mwynhau arddangosfeydd tân gwyllt yn ddiogel, a bod eisoes gymorth ariannol ar gael i awdurdodau lleol ofalu fod hyn yn digwydd.