Mae gamblo’n dod yn broblem ddifrifol yng Nghymru, yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru.

Yn ei adroddiad, Gamblo â’n Hiechyd, mae Dr Frank Atherton yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o gefnogaeth i’r rheiny sydd â phroblem gamblo, ac mae’n dweud bod angen ymchwilio a monitro’r effaith y mae gamblo yn ei gael ar iechyd.

Yn ôl ffigyrau, mae 61% o oedolion yng Nghymru wedi gamblo yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda 1.1.% o’r boblogaeth, sef 30,000 o bobol, yn y cyfaddef bod ganddyn nhw broblem gamblo.

Mae’r adroddiad hefyd yn dweud bod 3.8% o bobol yng Nghymru mewn perygl o ddatblygu’r broblem.

Ac ymhlith y problemau iechyd sy’n cael eu nodi fel rhai sy’n deillio â gamblo mae gorbryder, straen ac iselder, a all arwain wedyn at gamddefnydd o alcohol a chyffuriau.

Angen gweithredu

Mae Dr Frank Atherton yn gobeithio felly y bydd Llywodraeth Cymru yn cytuno i greu cynllun gweithredu cadarn ac uchelgeisiol a fydd yn lleihau’r niwed sy’n gysylltiedig â gamblo, gan gymryd camau hefyd fonitro’r sefyllfa.

“Efallai mai hwyl ddiniwed yw gamblo i rai, ond mae’n gallu achosi niwed i eraill,” meddai.

“Mae’n gallu cael effaith gwbl ddinistriol ar y bobl sydd agosaf at yr unigolion hyn, ac ar gymunedau.”

“Mae bylchau mawr yn parhau yn ein dealltwriaeth o’r mater hwn, ac mae angen inni leihau’r stigma sy’n cael ei gysylltu â gamblo fel bod mwy o bobl sydd angen help yn gallu gofyn amdano.

“Rwy’n gobeithio y bydd fy adroddiad blynyddol yn helpu i dynnu sylw at y mater hwn, sy’n rhaid delio ag e, cyn iddo ddod yn fwy difrifol fel mater iechyd y cyhoedd.”