Mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, yn dweud ei bod hi wedi cael eu “hysbrydoli” wrth ymweld â chanolfan sy’n datblygu ‘lleisiau’ Cymraeg ar gyfer dioddefwyr canser y gwddw.

Ar hyn o bryd, dim ond lleisiau synthetig Saesneg eu cyfrwng sydd ar gael i’r rheiny yng Nghymru sydd wedi colli eu llais o ganlyniad i ganser y llwnc.

Ond bwriad y prosiect ‘Lleisiwr’ gan Ganolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor yw datblygu llais synthetig Cymraeg er mwyn i gleifion ledled Cymru ei ddefnyddio.

Mae’r prosiect yn gydweithrediad rhwng y ganolfan a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ac mae wedi derbyn cymorth ariannol gwerth £20,000 gan Lywodraeth Cymru trwy gyfrwng cronfa grant Cymraeg 2050.

“Ysbrydoledig ac addysgiadol”

Ar ôl ymweld â’r ganolfan ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 30), mae Eluned Morgan yn dweud ei fod yn brofiad “addysgiadol a hynod ysbrydoledig”.

“Mae fy ngyrfa wedi’i seilio ar fy ngallu i siarad,” meddai, “felly mae’n bosib mod i’n fwy ymwybodol na llawer pa mor frawychus fyddai golli’r gallu hwnnw oherwydd salwch.

“Colled hyd yn oed fwy fyddai colli’r gallu i siarad â fy nheulu a’m ffrindiau yn yr iaith r’yn ni wedi arfer ei siarad bob dydd.

“Rydw i wrth fy modd, felly, fod Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gweithio ar y prosiect Lleisiau Cymraeg ac yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at y prosiect.”