Mae pethau wedi troi’n danllyd yn ystod sesiwn lawn y Cynulliad ym Mae Caerdydd heddiw, gydag Adam Price o Blaid Cymru yn codi ei lais yn erbyn y Prif Weinidog mewn trafodaeth ar ddyfodol ysbytai gorllewin Cymru.

Roedd Adam Price wedi gofyn cwestiwn i Carwyn Jones ar yr ail-drefnu posib i ysbytai, gan ddyfynnu neges ar gyfrif Twitter yr Aelod Cynulliad, Eluned Morgan, yn dweud ei bod hi’n gwrthwynebu cau “yr un ysbyty”.

Yr awgrym gan Adam Price oedd fod barn Eluned Morgan yn mynd yn groes i lein swyddogol Llywodraeth Cymru, sy’n dweud nad ydi hi wedi ffrufio barn eto, gan ei bod yn dal i ymghori â’r cyhoedd ar y mater.

Ond pan gododd Carwyn Jones i ymateb i Adam Price, roedd ganddo yn ei law gopïau o negeuon ebyst oddi wrth Fwrdd Iechyd Hywel Dda at Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn gofyn iddo am gyfarfod i drafod y mater. Yn ôl Carwyn Jones, doedd Adam Price ddim wedi ymateb, ac felly “heb chwarae rhan yn y broses”.

Fe wylltiodd Adam Price, a chyhuddo’r Prif Weinidog o dorri cyfreithiau amddiffyn data wrth ddyfynnu cynnwys y negeseuon ar lawr y Siambr, ac fe ddaeth bonllefau o gefnogaeth iddo o feinciau Plaid Cymru.

Un arall o aelodau Plaid Cymru – Rhun ap Iorwerth – oedd y nesaf ar ei draed i godi pwynt o drefn, ac fe amddiffynnodd Carwyn Jones ei hawl i gyhoeddi cynnwys yr ebyst.

Mewn ymateb, dywedodd Elin Jones, Llywydd y Cynulliad, na fyddai hi wedi hoffi clywed rhai o’i negeseuon ebost preifat yn cael eu dyfynnu yn y Siambr ac y bydd hi’n ystyried y mater ymhellach.

“Mae gan y cyhoedd yr hawl i wybod pan maen nhw’n cael eu camarwain gan eu cynrychiolwyr,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru. “Yn hytrach na chysylltu gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol, mae Adam Price yn chwarae i’r galeri.

“Wnaethon ni ddim cais am unrhyw wybodaeth sensitif,” meddai wedyn. “Does yna ddim gwybodaeth gyfrinachol wedi’i rhyddhau. Mae’r Bwrdd Iechyd Lleol, yn hollol iawn, wedi ei gwneud hi’n hysbys nad yw [Adam Price] wedi ymateb i’r un o’r gwahoddiadau y mae wedi cael i drafod y mater.”