Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi rhoi statws bwyd gwarchodedig i Gaws Caerffili – yr un statws sydd gan fwydydd fel Champagne, Ham Parma a Pheis Porc Melton Mowbray.

Mae hynny’n golygu bod Caws Caerffili, o heddiw ymlaen, yn cael ei warchod gan Statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PEI) y Comisiwn Ewropeaidd, sy’n un o dri dynodiad arbennig gan y cynllun Enwau Bwyd Gwarchodedig (PFN).

Prif fwriad statws o’r fath yw sicrhau bod rhai bwydydd a diodydd yn Ewrop yn cael eu gwarchod yn gyfreithiol, fel nad ydyn nhw’n cael eu camddefnyddio na’u copïo.

A Chaws Caerffili yw’r cyntaf yng Nghymru i gael y statws penodol hwn, a hynny ar ôl i gais gael ei gyflwyno i’r Comisiwn Ewropeaidd ar ran cynhyrchwyr y caws yng Nghymru.

Balchder

Arweinydd y cais oedd Carwyn Adams o gwmni Gaws Cenarth ger Castellnewydd Emlyn, sydd wedi bod yn cynhyrchu a gwerthu caws Caerffili ers y cychwyn cyntaf yn 1987.

“Rydyn ni wrth ein bodd bod enw’r caws bellach yn cael ei warchod,” meddai.

“Mae hyn yn gwarantu ei ansawdd a’i ddilysrwydd, ac yn profi bod y caws wedi’i gynhyrchu gan bobol fedrus sy’n frwd dros gynhyrchu caws.”