Mae Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer pecyn a fydd yn gymorth i rieni sy’n addysgu eu plant gartref.

Bwriad y pecyn yw cynorthwyo addysgwyr cartref wrth eu gwaith, ynghyd â helpu awdurdodau lleol i nodi’r plant oedran ysgol hynny sydd ddim yn derbyn addysg ffurfiol.

I’r rheiny, mae’r pecyn yn cynnwys:

  • cymorth i gofrestru plant ar gyfer arholiadau;
  • rhoi mynediad at Hwb, sef platfform digidol Cymru;
  • edrych ar gyfleoedd i deuluoedd sy’n addysgu yn y cartref i ddysgu Cymraeg;
  • a chefnogaeth gan Gyrfa Cymru.

A lle mae awdurdodau lleol yn y cwestiwn wedyn, mae Kirsty Williams yn dweud ei bod hi’n bwriadu ymgynghori ynglŷn â sut i ddefnyddio deddfwriaeth bresennol i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol i sefydlu cronfa ddata.

Fe fydd y gronfa hon yn gymorth iddyn nhw gofnodi pa blant sy’n derbyn addysg y tu allan i’r ysgol, ac i asesu pa mor addas yw’r addysg honno.

Asesu addysg y cartref

“Rydw i’n parchu dewis rhieni i addysgu eu plant yn y cartref yn llwyr,” meddai Kirsty Williams, “ac nid yw unrhyw beth rydw i’n ei ystyried neu’n ei gynnig yn newid hynny.

“Mae gan rieni lawer o resymau gwahanol, dilys, a chymhleth weithiau, dros ddewis y llwybr hwn, ac mewn rhai sefyllfaoedd dyma’r dewis gorau ar gyfer y plentyn.

“Ond rhaid pwyso a mesur hyn yn erbyn hawl plant i gael addysg addas.

“Drwy sefydlu cronfa ddata a gefnogir gan ganllawiau statudol, bydd awdurdodau lleol yn gallu asesu a yw plentyn yn derbyn addysg addas, a ph’un a yw addysgwyr cartref yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, os yw’r plentyn yn derbyn ei addysg gartref.”