Mae aelodau o staff mewn pedair prifysgol yng Nghymru ymhlith 61 o brifysgolion ledled y Deyrnas Unedig sy’n bwriadu mynd ar streic fis nesaf, a hynny yn dilyn anghydfod ynglŷn â thaliadau pensiwn.

Y prifysgolion a fydd yn cael eu heffeithio yng Nghymru fydd Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Phrifysgol Cymru, ar ôl i aelodau o Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU) bleidleisio o blaid gweithredu’n ddiwydiannol am gyfnod o 14 diwrnod rhwng Chwefror 22 a Mawrth 16.

Mae’r penderfyniad i streicio yn deillio o’r newidiadau syn cael eu cynnig gan Universities UK (UUK) – sef y corff sy’n cynrychioli’r prifysgolion – a fydd yn golygu na fydd swm pensiwn terfynol staff yn cael ei sicrhau, ac y byddai’n ddibynnol ar brisiau’r farchnad stoc.

Ond yn ôl UCU, fe fydd y newidiadau hyn yn golygu y bydd ei haelodau ar eu colled o tua £10,000 o gymharu â’r hyn maen nhw’n ei gael o dan y drefn bresennol.

“Gadael i lawr”

Yn ôl Sally Hunt, ysgrifennydd cyffredinol yr UCU, mae staff yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu “gadael i lawr” gan arweinwyr sydd am amddiffyn eu buddiannau eu hunain, yn hytrach na hawliau’r gweithwyr.

“Nid oes gweithredu diwydiannol ar y fath raddfa â hon wedi cael ei weld ar gampysau prifysgolion y Deyrnas Unedig o’r blaen,” meddai.

“Ond mae’n rhaid i brifysgolion wybod faint o drafferth y bydd yn rhaid iddyn nhw ei wynebu, os na fyddan nhw’n datrys y broblem.”

Fe fydd ail bleidlais yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Abertawe ar ôl i 49.7% fwrw pleidlais – sy’n llai na’r 50% sydd ei angen yn ôl y rheolau.

Roedd hyn er gwaethaf y ffaith bod 88.5% wedi pleidleisio o blaid streicio.