Mae’r Urdd wedi cyhoeddi y byddan nhw’n lansio ymgyrch genedlaethol i annog plant i gadw’n heini, yn dilyn llwyddiant ymgyrch debyg yng nghymoedd y de.

Trwy gydol mis Ionawr eleni, fe gynhaliodd yr Urdd yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Merthyr a Gwent ymgyrch byw yn iach o’r enw #IonawrIachus, gyda 9,000 o blant mewn 27 o ysgolion yn cymryd rhan ynddi.

Fel rhan o’r ymgyrch, cafodd fideo ymarfer corff gan yr Urdd ei rannu gyda’r ysgolion, ac fe rannodd y rheiny yn eu tro fideos a lluniau o’r plant yn ymgymryd ag ymarfer corff yn y dosbarth – a hynny trwy ddefnyddio’r hashnod #IonawrIachus ar Twitter.

Ac yn dilyn ei llwyddiant, mae’r Urdd wedi cadarnhau heddiw y bydd yr ymgyrch hon yn cael ei chynnal yn genedlaethol ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf, gydag ysgolion ledled Cymru yn cael y cyfle i fod yn rhan ohoni.

“Edrych ymlaen”

“Rydyn ni mor falch o’r ymateb sydd wedi bod i’r cynllun Ionawr Iachus,” meddai Helen Williams Couch, Cydlynydd Chwaraeon yr Urdd yn y cymoedd, “a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r holl ysgolion sydd wedi cymryd rhan, ac am ddangos gymaint o frwdfrydedd.

“Y mae wedi bod mor llwyddiannus fel bod llawer o ysgolion bellach yn defnyddio’r fideo yn ddyddiol yn eu dosbarthiadau i gael y plant yn effro a pharod i ddysgu!

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda phob ysgol yng Nghymru yn 2019 pan fyddwn ni’n mynd ac Ionawr Iachus yn genedlaethol!”