Mae ymgyrch newydd wedi’i lansio gan Lywodraeth Cymru heddiw a fydd yn mynd ati i geisio herio stereoteipio ar sail rhywedd, ynghyd ag atal camdriniaeth.

Nod yr ymgyrch DYMA FI yw mynd i’r afael â rhai o’r rhesymau y tu ôl i drais yn erbyn merched, megis cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae’r ymgyrch yn cynnwys hysbysebion teledu, radio ac ar-lein sy’n dangos pobol mewn sefyllfaoedd sy’n herio ein syniadau am rywedd.

Mae pobol hefyd yn cael eu hannog i fod yn rhan o’r ymgyrch trwy siarad am eu profiadau a’u cysyniadau o stereoteipio drwy ddefnyddio’r hashnod #dymafi.

Mae’r ymgyrch hon yn rhan o ymgyrch ehangach a mwy hirdymor gan Lywodraeth Cymru, sef Byw Heb Ofn, a fydd yn ehangu dros gyfnod o amser i ystyried achosion a chanlyniadau eraill camdriniaeth a thrais.

Mae wedi ei chreu mewn cydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru, goroeswyr camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol, ac arbenigwyr.

“Ysgogi trafodaeth”

“Mae’r ymgyrch DYMA FI yn rhan o’n hymrwymiad parhaus i gael gwared ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru,” meddai’r Aelod Cynulliad, Julie James.

“Mae anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn achosi’r gamdriniaeth a’r trais hwn ac yn ganlyniad iddo.

“Rwy’n gobeithio y bydd DYMA FI yn ysgogi trafodaeth am stereoteipio ar sail rhywedd ac rwyf am i bobl gymryd rhan yn yr ymgyrch drwy siarad am eu profiadau eu hunain.

“Mae pawb yng Nghymru’n haeddu byw heb ofni stereoteipio ar sail rhywedd a chamdriniaeth.”