Codi ymwybyddiaeth am y Gymraeg yw bwriad llyfryn newydd fydd yn cael ei lansio yn Ynys Môn ddydd Llun (Ionawr 29).

Mae’r llyfryn ‘Croeso i Gymru/ Croeso i’r Gymraeg’ wedi ei anelu at bobol ddi-Gymraeg sy’n symud i’r ynys, a’r nod yw tynnu sylw at yr iaith a’r manteision o’i dysgu.

Menter Iaith Môn, Cyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru sydd wedi datblygu’r llyfryn, ac os fydd yn llwyddiannus bydd yn cael ei gyflwyno i ardaloedd eraill Cymru.

Cafodd  y llyfryn ei lansio gan Weinidog y Gymraeg, Eluned Morgan bore ma yng Nghanolfan Iaith, Ysgol Gymuned Moelfre.

“Gwarchod y Gymraeg”

“Gyda nifer o ddatblygiadau economaidd sylweddol ar y gorwel – mae’n bwysig ein bod ni’n paratoi,” meddai Prif Swyddog Menter Iaith Môn, Helen Williams.

“Nid yn unig i warchod y Gymraeg yma ar Ynys Môn ond hefyd i roi cymorth i’r rheiny sy’n symud yma i’w  haddysgu am yr iaith a’r diwylliant lleol.”