Mae’r Aelod Seneddol Ewropeaidd Derek Vaughan yn dweud bod Cymru wedi “colli llawer o ddylanwad” ym Mrwsel wrth i Brydain baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Daw ei sylwadau wrth drafod y sefyllfa ar raglen Sunday Politics Wales y BBC.

Ond mae’n mynnu bod busnes Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd “yn mynd rhagddo fel arfer” ar hyn o bryd, wrth i’r trafodaethau i sicrhau cytundeb barhau.

“Er enghraifft, yn ddiweddar, dw i wedi bod yn paratoi adroddiad ar gyllideb y Senedd. Dw i wedi bod yn gwneud adroddiadau ar wariant yr Undeb Ewropeaidd yng Ngogledd Iwerddon, sy’n bwnc llosg go iawn.

“Pe bawn i yma ar ôl 2020, mae’n bosib y byddwn i wedi gwneud y rheolau ar gyfer rownd nesaf y cronfeydd strwythurol. Felly mae Cymru wedi colli llawer o ddylanwad o adael yr Undeb Ewropeaidd.”

Ond mae’n mynnu bod yr Undeb Ewropeaidd “yn dal i ymddiried” ynddo ac yn “hapus i roi’r adroddiadau mawr” iddo.

“Wrth gwrs, fe fydd hynny’n newid wrth i ni fynd yn nes at 2019.”

Cadw at reolau

Wrth i Lywodraeth Prydain ddechrau ar gyfnod o drawsnewid cyn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn derfynol, mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn dweud y bydd hyblygrwydd o ran cadw at reolau Brwsel.

Ond mae Derek Vaughan yn amau hynny ar drothwy cyfarfod pellach ddydd Llun.

“Yfory, fe fydd yr Undeb Ewropeaidd yn cytuno ar ei safbwynt o ran cyfnod o drawsnewid ac yn hynny o beth, byddan nhw’n dweud bod rhaid i’r DU barhau i dalu Cyllideb yr EU, derbyn yr holl reolau a chael dim llais yn y rheolau hynny.

“Mae’r DU wedi awgrymu y bydd yn rhaid derbyn hynny.

“Fis Mawrth eleni, bydd yr Undeb Ewropeaidd yn amlinellu ei safbwynt ar drafodaethau ynghylch y berthynas fasnach ac mae’n debyg y bydd yn dweud wrth Lywodraeth y DU, “Allwch chi ddim gwneud penderfyniad. Y gorau allwch chi ei ddisgwyl yw cytundeb tebyg i Ganada.

“Yn anffodus, dyna fydd sefyllfa’r DU ym mis Mawrth.”