Mae heddlu arfog wedi’u galw i eiddo yn ardal Garth ym Maesteg yn dilyn “digwyddiad”.

Cawson nhw eu galw prynhawn yma i Ffordd Pen-y-bont fel “rhagofal”.

Mae’r ffordd ynghau i’r ddau gyfeiriad wrth i’r ymchwiliad barhau.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd, ond mae’r heddlu’n dweud y byddan nhw’n rhoi diweddariad maes o law.