Mae perchnogion tafarn Y Ffarmers, Llanfihangel-y-Creuddyn wedi “diolch o waelod calon” am gefnogaeth y gymuned leol yn dilyn tân difrifol yno ddydd Sadwrn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yno am 7.26am a daeth cadarnhad yn ddiweddarach fod difrod sylweddol i’r adeilad.
Mae’r perchnogion, Caitlin a Lewis yn dweud mewn neges ar Facebook iddyn nhw ddioddef “tân ofnadwy” a bod hynny’n “[d]dolur calon” iddyn nhw.
Mae’r neges wedi’i hanfon at “[d]riw gyfeillion pell ac agos”, ac maen nhw’n dweud eu bod yn “diolch o waelod calon am bob cefnogaeth”.
Ychwanega’r neges: “Rydym yn ddiolchgar na chafodd neb unrhyw niwed.
“Bydd y dafarn annwyl ar gau tra ein bod yn ei hail-adeiladu, ac ail-adeiladu a wnawn yn ddi os.
“Diolch o waelod calon am bob arwydd o gefnogaeth. Caitlin, Lewis a tîm Y Ffarmers xx.”
Ymateb y gymuned
Mae 50 o negeseuon wedi’u postio ar Facebook yn ymateb i neges y perchnogion.
Ac mae nifer o bobol wedi ymateb ar Twitter i’r tân:
Medddwl am bawb yn #llanfihangelycreuddyn wedi tan yn fy hoff dafarn #yffarmers. Diolch byth fod pawb yn ok.
— Eiry Thomas (@Eirywiry) January 27, 2018
@yffarmers Mor mor sori i glywed am y pyb. Ofnadwy. Ni’n byw lan y bryn yn Trisant, a roedden ni”n trafod dod i lawr i cael pryd o fwyd! Rhowch wybod pryd i ni bwco bwrdd!
— Jen Llywelyn FBPE (@Penbrynhir) January 27, 2018