Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad ar ddynes yng Nglyn Ebwy brynhawn dydd Gwener.

Roedd hi’n cerdded ar hyd Stryd Bethcar ger toiledau cyhoeddus a siop Greggs pan redodd dyn ati o’r tu ôl a’i gwthio i’r llawr.

Rhedodd e i ffwrdd ar ôl i bobol ruthro i helpu’r ddynes. Roedd e’n gwisgo dillad du a chap pêl fas.

Cafodd y ddynes grafiadau i’w hwyneb a’i dwylo ond ni chafodd ei hanafu’n ddifrifol.

Mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd y digwyddiad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.