Mae archfarchnad Tesco wedi tynnu crysau-T yn dwyn y geiriau “Cymru Am Buth” oddi ar ei silffoedd yn dilyn helynt ar wefannau cymdeithasol.

Cafodd y crysau-T eu cynhyrchu ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi a dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ac roedden nhw’n cael eu gwerthu am £7 yr un.

Ond fe gafodd yr archfarchnad wybod am eu gwall sillafu gan Eleri Jones, 39 o’r Drenewydd, ac fe gafodd llun o’r crys-T ei rannu’n helaeth ar y we.

Ymddiheuro

Mae Tesco wedi ymddiheuro am y camgymeriad, ac fe ddywedodd llefarydd fod y crysau-T wedi cael eu tynnu oddi ar y silffoedd.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Tesco: “Mae gennym amryw o grysau-T ar werth yn dwyn y geiriau Cymru Am Byth, fel y gall pobol ddangos eu balchder yng Nghymru yn arwain i fyny at Ddydd Gŵyl Dewi a’r Chwe Gwlad, ac rydym yn siomedig fod gwall sillafu wedi digwydd ar un o’r cynnyrch hynny, er gwaetha’r prosesau sydd gennym yn eu lle i atal y fath wallau.

“Rydym bellach wedi tynnu’r crys-T hwn i blant rhag cael ei werthu, ac yn trefnu i’n stoc gael ei roi i elusennau.”

Ymateb ar Twitter

Mae’r gwall wedi cael ei feirniadu gan rai ar Twitter:

Ond nid pawb sy’n rhy grac: