Mae ‘pen Bendigeidfran’ ar daith drwy Gymru ar ôl i Benarth gynnal dathliadau’r Hen Galan yn ddiweddar.

Yn ôl yr hanes yn y Mabinogi, collodd y cawr Bendigeidfran ei ben mewn brwydr yn Iwerddon, ond mae’n dychwelyd i Gymru cyn cael ei rolio bob cam i Lundain a’i gladdu yno er mwyn gwarchod Prydain rhag pob trallod.

Fel rhan o ddathliadau’r Hen Galan eleni, cafodd y digwyddiad ei ail-greu gan yr artistiaid Parry a Glynn wrth i’r pen gael ei rolio ar draeth Penarth.

Bydd y pen yn mynd i nifer o lefydd ar ei daith i Fryn Briallu yn Lundain, gan gynnwys campws Prifysgol Y Drindod Dewi Sant yn Llambed ddydd Mercher (Ionawr 31).

Mae’r digwyddiad hefyd yn nodi dechrau Blwyddyn y Môr, cynllun i annog twristiaid i ddod i Gymru.