Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cadarnhau wrth golwg360 eu bod nhw wedi’u galw i dân yn nhafarn y Ffarmers yn Llanfihangel-y-Creuddyn.

Cawson nhw eu galw am 7.26yb.

Mae pedair injan dân ar y safle, ac mae diffoddwyr yn defnyddio camerâu delweddau thermol wrth archwilio’r safle.

Does dim manylion am ddifrod nac anafiadau ar hyn o bryd, yn ôl llefarydd.