Fe fydd twnnel Brynglas ynghau i gyfeiriad y dwyrain am y tro cyntaf heno (nos Sadwrn, Ionawr 27) wrth i weithwyr barhau i wneud gwaith cynnal a chadw.

Mae’n debygol o gael effaith ar gefnogwyr pêl-droed sy’n gadael y gêm bêl-droed fawr yng Nghwpan FA Lloegr rhwng Casnewydd a Spurs ar gae Rodney Parade yng Nghasnewydd. Mae gofyn i deithwyr fynd ar hyd yr A48 i’r de o Gasnewydd.

Bydd traffig rhwng cyffordd 28 a chyffordd 24 yr M4 deithio ar hyd Ffordd Ddosbarthu’r De.

Bydd y twnnel ynghau rhwng 7pm ac yn agor unwaith eto fore Sul am 10 o’r gloch, ac fe fydd ynghau yn ystod y nosweithiau ganol yr wythnos.

Bydd y drefn hon yn ei lle am bum penwythnos i gyd wrth i’r gwaith gael ei gwblhau fis Mawrth.