Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi awgrymu gwario arian y Gwasanaeth Iechyd ar gadw canolfannau ar agor.

Dywedodd Sophie Howe wrth Radio Wales y byddai cadw’r canolfannau rhag cau yn arbed arian i’r Gwasanaeth Iechyd yn y tymor hir.

Mae dyfodol sawl canolfan hamdden yn y fantol wrth i gynghorau sir geisio canfod arbedion.

Hefyd fe ddywedodd y Comisiynydd bod angen “sgwrs genedlaethol” am yr angen posib i godi trethi er mwyn talu am y Gwasanaeth Iechyd a gofal cymdeithasol.

Cyfrifoldeb cyfreithiol

Mae gan y Comisiynydd dan sylw gyfrifoldeb cyfreithiol i fynegi barn ar ba bolisïau neu brojectau sydd am gynnig y fargen orau i genedlaethau’r dyfodol.

Mae Sophie Howe yn galw ar gyrff cyhoeddus i gydweithio a thrafod sut i gadw gwasanaethau ar agor.

“Felly os yw’r cyngor sir yn meddwl am gau canolfannau hamdden, oherwydd pwysau ar gyllidebau, dyle nhw fod yn trafod gyda phartneriaid eraill [a gofyn] ‘pwy all ein helpu?’

“Gallai hynny olygu bod y Gwasanaeth Iechyd yn trosglwyddo rhywfaint o’i gyllideb i gadw canolfannau hamdden ar agor, oherwydd yn y tymor hir mae hynny yn debygol o arbed arian a lleihau’r galw sydd arnyn nhw pan nad yw pobol yn cadw yn heini ac yn mynd yn sâl.”