Mae dyn 46 oed wedi ei gyhuddo mewn perthynas ag ymosodiad â llafn yng Nghaerdydd.

Fe gafodd swyddogion eu galw i glwb nos Kiwi yn Heol Eglwys Fair y brifddinas yn ystod oriau mân fore Iau (Ionawr 25).

Cafodd dyn ei gludo i’r ysbyty yn sgîl yr ymosodiad ond bellach mae mewn cyflwr sefydlog, ac nid yw’r anafiadau yn peryglu ei fywyd.

Bydd Anthony O’Neil o Trowbridge, Caerdydd, yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener (Ionawr 26).