Mae Cyngor Sir Benfro wedi dweud eu bod yn “siomedig” na fydd cynllun i ddatblygu Marina Abergwaun a Wdig yn mynd yn ei flaen, ar ôl i’r cwmni fferi Stena dynnu’n ôl.

Roedd y cynllun gwerth dros £100 miliwn wedi cael ei greu ar y cyd rhwng Stena a’r cwmni datblygu, Conygar, ac fe roddodd Cyngor Sir Benfro ganiatâd i’r datblygiad fynd yn ei flaen yn 2012.

Bwriad Conygar oedd adeiladu 253 o fflatiau, promenâd newydd a chanolfan ymwelwyr ger yr harbwr yng Ngwdig, gyda Stena wedyn yn gyfrifol am adeiladu platfform fferi newydd a fyddai’n fodd i ddatblygu’r porthladd ymhellach yn y dyfodol.

Ond ers hynny, mae Stena wedi penderfynu na fydden nhw’n cefnogi’r datblygiad, oherwydd eu bod nhw’n poeni y bydd yn ymyrryd gyda gweithgarwch yr harbwr.

Angen adolygiad

 “I fi, mae hyn yn newyddion siomedig i Abergwaun, Wdig a Gogledd Sir Benfro yn gyffredinol,” meddai’r Cynghorydd Paul Miller, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd a Chymunedol.

“Mae’n amlwg bod angen i ni ailystyried yn ddwys ein hymagwedd at ddatblygiad economaidd yn Sir Benfro a bydd proses adolygu ffurfiol byr yn cychwyn ar unwaith.

“Bydd crynodeb o ganfyddiadau’r adolygiad hwnnw yn cael ei gyhoeddi maes o law.”