Wrth i Gyngor Powys “wynebu heriau sylweddol” mae’r Cabinet yn ystyried cynnydd o 5% yn nhreth y cyngor.

Byddai hynny yn golygu £3.5 miliwn ychwanegol i’r coffrau, ac yn ôl y Cabinet mi fyddai yn helpu gyda’r bwriad i fuddsoddi £12.8 miliwn “mewn gwasanaethau hanfodol i blant a’r henoed”.

Byddai’r cynnydd yn golygu bod perchennog eiddo ‘Band D’ yn talu £56.63 yn ychwanegol, a’r taliad llawn am y flwyddyn i’r cyngor sir fyddai £1,189.20.

Yn ôl Aelod Portffolio’r Cabinet ar faterion Cyllid, mae diffyg ariannol wedi i Lywodraeth Cymru gwtogi ar eu cyfraniad i Gyngor Powys.

“Mae angen 2.4% o gynnydd yn Nhreth y Cyngor ym Mhowys i wneud yn iawn am bob 1% o doriad yn yr arian a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru,” meddai’r Cynghorydd Aled Davies.

Dileu pwyllgorau i arbed miloedd

Mae Cyngor Powys wedi penderfynu dileu tri phwyllgor rhanbarthol erbyn mis Mai, gan arbed £175,000.

Dywedodd Aelod y Cabinet dros faterion Cyfathrebu, y Cynghorydd James Evans; “Mae’r pwyllgorau sirol yn adlewyrchiad o’r hen gynghorau dosbarth a ddiflannodd dros 20 mlynedd yn ôl.  Mae eu defnyddioldeb dros y blynyddoedd wedi cael ei gydnabod.  Fodd bynnag, maen nhw’n foethusrwydd na allwn ei fforddio mwyach.”

Ychwanegodd James Evans na fydd “cael gwared ar y pwyllgorau rhanbarthol yn gwanhau democratiaeth, bydd yn ei atgyfnerthu a byddwn yn gweithio’n ddiflino i wella’r ffordd y caiff democratiaeth ei chyflwyno trwy ddefnyddio technoleg newydd.  Roedd llawer o’r cynghorwyr â meddwl mawr o’r pwyllgorau rhanbarthol ond bydd eu diddymu yn caniatáu gwell defnydd o adnoddau gwerthfawr”.