Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio heddiw y bydd unrhyw dystiolaeth sy’n cael ei chyflwyno i ymchwiliad ar ymddygiad Carwyn Jones, yn cael ei chadw ar wahân i systemau’r llywodraeth.

Mewn datganiad, mae llefarydd ar ran Ysgrifennydd Parhaol y Llywodraeth, Shan Morgan, yn dweud y dylai unrhyw un sydd â thystiolaeth berthnasol, ddod ymlaen i gyfrannu at yr ymchwiliad.

Mae pryder y gallai rhai fod yn gyndyn o roi tystiolaeth am eu bod yn poeni y gallai Llywodraeth Cymru ddod i wybod amdanyn nhw.

Allweddol

Yn ôl llefarydd, mae’r Llywodraeth wedi penodi ysgrifennydd i sicrhau bod y dystiolaeth yn cadw draw o’i dwylo ac mae’n “allweddol” bod pawb sy’n gallu yn cyflwyno tystiolaeth.

Ddydd Mercher nesaf, Ionawr 31, yw’r diwrnod olaf i gyflwyno tystiolaeth.

Dyw Llywodraeth Cymru ddim yn fodlon dweud wrth golwg360 faint o dystion sydd eisoes wedi cysylltu â’r ymchwiliad, ac os oes diffyg tystion.

Dechrau’r ymchwiliad

Mae’r cynghorydd annibynnol o’r Alban, James Hamilton, a gafodd ei benodi gan y Llywodraeth i arwain yr ymchwiliad wedi dechrau ar y gwaith o gasglu tystiolaeth.

Ar ôl i’r ymchwiliad ddod i ben, mae disgwyl iddo ddyfarnu p’un ai yw’r Prif Weinidog wedi torri Cod y Gweinidogion.

Bydd yn edrych yn benodol ar atebion y cyflwynodd Carwyn Jones i Aelodau Cynulliad ar lawr y Siambr ar Dachwedd 11, 2014 a Thachwedd 14, 2017. Roedd hynny wrth ddweud nad oedd yn ymwybodol o honiadau o fwlian yn swyddfeydd gweinidogion Llywodraeth Cymru ar 5ed llawr Tŷ Hywel yng Nghaerdydd.

“Mae’r cynghorydd annibynnol, James Hamilton, yn bwrw ymlaen gyda’i waith ar God y Gweinidogion, wedi i’r Prif Weinidog gyfeirio ei hun ym mis Tachwedd y llynedd mewn perthynas â’r atebion a roddodd i Aelodau’r Cynulliad yn 2014 a 2017,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru heddiw.

“Ym mis Rhagfyr, gofynnodd Mr Hamilton i bwy bynnag oedd â thystiolaeth berthnasol i’r ymchwiliad gysylltu ag ef.

“Dylai unrhyw un sy’n meddu ar dystiolaeth berthnasol, ond sydd heb ddod ymlaen eto, gysylltu â Mr Hamilton drwy ymchwiliadatgyfeirio@wales-uk.com erbyn Ionawr 31 fan bellaf.

“Bydd deunydd sy’n ymwneud â’r broses yn cael ei gadw ar wahân i systemau mewnol eraill Llywodraeth Cymru.”