Traddodiad sydd wedi cael “ail-wynt” gan y Cymry’n ddiweddar yw Diwrnid Santes Dwynwen, yn ôl arbenigwr ar chwedlau a llên gwerin.
 
Er bod Santes Dwynwen yn ffigwr pwysig i Gymry’r Oesoedd Canol, yn enwedig y beirdd, mae Dr Rhiannon Ifans yn dweud bod y Cymry wedi colli gafael arni’n ddiweddarach, cyn “ailafael” ynddi yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf.
 
“Yn draddodiadol, fe fyddwn i’n dweud mai i Sant Ffolant roedd y beirdd yn ysgrifennu eu cerddi o’r ail ganrif ar bymtheg ymlaen,” meddai.
 
“Ond yng nghanol yr ugeinfed ganrif, am fod y Cymry Cymraeg brwd yn cymryd yn erbyn rhai pethe yr oeddan nhw’n ystyried yn arferion Seisnig, roedden nhw’n erbyn Sant Ffolant wedyn, gan gofio bod ganddon ni ein nawddsant cariadon ein hunain.
 
“Wedyn, ddaru nhw symud oddi wrth Ffolant a dathlu wedyn, yn frwd iawn, Ionawr 25.
 
“A dw i’n meddwl mai pobol fel Robart Gruffudd yn Y Lolfa a wnaeth ddechra gwerthu cardia … ac o hynny ymlaen,fe wnaeth o roi arweiniad i lawer iawn o bobol i gymryd rhan yn hyn.”
 
Canu serch myfyriwr Pantycelyn
 
Un arferiad poblogaidd yn ardal Aberystwyth mae Rhiannon Ifans yn ei gofio yw myfyrwyr Pantycelyn yn ystod y 70au a’r 80au yn mynd o gwmpas tai yr ardal ar Ionawr 25 er mwyn codi arian.
 
“Roedd criw o ryw tri neu bedwar o fechgyn, sef myfyrwyr, yn dod yma wedi gwisgo mewn coch ac yn canu cerddi serch y tu allan i’m ffenest i,” meddai eto.
 
“Ac ar ôl iddyn nhw ddod yma i ganu, roeddwn i’n gwneud brecwast iddyn nhw wedyn … roedd o’n hyfryd, i ddweud y gwir.
 
“Roedd yn codi proffil Santes Dwynwen ymhlith y bobol ifanc, ond hefyd ymhlith y cymdogion a phawb arall oedd yn gweld hyn yn digwydd.”
 
Chwedl Santes Dwynwen
 
Dyma glip sain o Rhiannon Ifans yn esbonio arwyddocâd a chynnwys y chwedl: