Mae nifer y troseddau treisgar sydd yn cael eu cofnodi gan luoedd heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi cynyddu tros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ffigurau newydd.

Yn ystod y deuddeg mis hyd at Fedi 2017 cafodd 5.3 miliwn o droseddau eu cofnodi gan luoedd – cynnydd o 14% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Troseddau â chyllyll, a throseddau â drylliau sydd yn rhannol gyfrifol am y twf, yn ôl ystadegwyr.

Ond, mae’r Swyddfa Ystadegau wedi rhybuddio nad yw’r ffigyrau diweddaraf yn cynnig darlun cwbl onest gan fod newidiadau mewn dulliau cofnodi wedi cyfrannu at y cynnydd.

Yn ôl Arolwg Drosedd y corff – arolwg sydd yn selio’i ganfyddiadau ar sail profiadau pobol – mae troseddau ar gwymp.