Mae dyn wedi cael ei gludo i’r ysbyty yn dilyn ymosodiad â llafn yng Nghaerdydd. 

Fe gafodd swyddogion eu galw i glwb nis Kiwi yn Heol Eglwys Fair yn y brifddinas yn ystod oriau mân bore dydd Iau (Ionawr 25).

Yn ôl Heddlu De Cymru, mae’r dyn mewn cyflwr sefydlog, a dydi’r anafiadau ddim yn peryglu ei fywyd.

Mae dyn lleol 46 oed wedi ei arestio, ac mae’r awdurdodau’n dweud nad oes cysylltiad o gwbwl â brawychiaeth.