heddiw’n Ddiwrnod Santes Dwynwen, mae sefydlydd ap Gymraeg i gariadon yn dweud ei fod yn anelu at ddenu 10,000 o Gymry Cymraeg.  

Cafodd ap ‘Canlyn’ ei sefydlu ym mis Tachwedd y llynedd gyda’r nod o helpu Cymry Cymraeg i ddod o hyd i gymar – a bellach mae 300 wedi eu lawrlwytho.

Yn ôl sefydlydd yr ap, Arfon Williams, mae cyfrifon yn cael eu creu yn ddyddiol, gyda rhai wedi’u sefydlu gan bobol o’r Ariannin, yr Unol Daleithiau a Sarajevo.

“Dw i’n hapus iawn gyda’r nifer o bobol sydd wedi’u lawrlwytho,” meddai Arfon Williams wrth golwg360.

“Y targed ydi 10,000. Ac mae hwnna’n lot, dydi? Ond mae digon o bobol yn siarad Cymraeg.

“Dim ond y dechrau ydi hyn. Dw i isio iddo fo fynd o nerth i nerth. Ac os ddim ap Canlyn neith hi, rhyw ap Cymraeg arall i gariadon [fydd yn dod i’r adwy]. Mae hwn yn offeryn arall i’r iaith.”

Mae’n debyg bod y “mwyafrif” o’r bobol sy’n defnyddio’r ap rhwng 18-35 oed, gyda llawer ohonyn nhw yn y brifysgol. Ond mae Arfon Williams yn mynnu fod ‘Canlyn’ yn agored i “bawb”.

Beth yw Canlyn?

Yn debyg i’r ap dêtio Saesneg, Tinder, mae ap ‘Canlyn’ yn galluogi defnyddwyr i bori trwy luniau o ddefnyddwyr eraill ac i glicio botwm calon os oes ganddyn nhw ddiddordeb yn yr unigolyn.  

Os mae dau ddefnyddiwr yn clicio’r galon ar luniau ei gilydd mae modd iddyn nhw sgwrsio â’i gilydd. Mae modd i bobol o unrhyw rywioldeb ei ddefnyddio.

Er bod yr ap eisoes ar gael i’w lawrlwytho, fe fydd lansiad swyddogol yn nhafarn Y Glôb, Bangor heno (Ionawr 25) sy’n cyd-daro â noson meic agored o ganeuon serch Cymraeg.

Mae’r ap ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim.