O bob un o wledydd Prydain, Cymru sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf yn y ganran y bobol sy’n ddi-waith, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Rhwng Medi a Thachwedd y llynedd, fe fu cynnydd o 0.8% yng nghyfradd diweithdra Cymru, o gymharu â’r dim newid a fu yn Lloegr a’r Alban. Fe gwympodd y gyfradd yng Ngogledd Iwerddon o 0.9%.

Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau yn dangos fod 4.9% o boblogaeth Cymru, sef 73,000 o bobol, yn ddi-waith yn ystod chwarter olaf 2017.

Roedd 32.2 miliwn o bobol mewn gwaith ledled y Deyrnas Unedig yn ystod y tri mis hyd at Dachwedd – y nifer uchaf ers i gofnodion ddechrau yn 1971.