Mae cynhadledd yn cael ei chynnal yn Llanfair-ym-Muallt heddiw, gyda’r bwriad o sicrhau dyfodol aderyn sydd mewn peryg o ddiflannu o Gymru.

Fe fu cwymp o 81% yn niferoedd y gylfinir yng Nghymru rhwng 1993 a 2006, a’r gred yw mai dim ond tua 500 o barau bridio sydd ar ôl yn y wlad erbyn hyn.

Pryder arbenigwyr yw y gallai gylfinirod ddiflannu’n llwyr o Gymru yn ystod y degawdau nesaf heb i ddyn ymyrryd.

 

“Awen y bardd”

“Mae’r gylfinir yn rhan annatod o dreftadaeth Cymru,” meddai Mary Colwell, cyd-drefnydd y gynhadledd ym Mhowys sy’n dod ag adarwyr, naturiaethwyr a pherchnogion tir ynghyd i drafod y sefyllfa.

“Mae wedi ysbrydoli beirdd, cerddorion a llenorion Cymru ers cenedlaethau. ‘Galwad natur wyllt’ yw galwad yr aderyn hwn, a thrasiedi fyddai caniatáu iddo ddiflannu a ninnau’n dal i fod ag amser i’w achub.”

Iolo Williams fydd yn agor y gynhadledd, ac mae corff cadwraeth Cyfoeth Naturiol Cymru yn un o gefnogwyr y digwyddiad.