Gyda phythefnos union i fynd tan isetholiad Alyn a Glannau Dyfrdwy, mae canfaswyr Llafur yn yr etholaeth yn dweud wrth golwg360 heddiw eu bod nhw’n “edrych ymlaen at fuddugoliaeth” ar Chwefror 6.

Daw’r isetholiad yn sgil marwolaeth sydyn y cyn-Aelod Cynulliad, Carl Sargeant, ym mis Tachwedd y llynedd. A’i fab, Jack Sargeant, sydd wedi ei ddewis yn ymgeisydd Llafur yn ei le.

“Rydan ni wedi cael ymateb da iawn gan bobol leol,” meddai Michael White, cynghorydd sir Llafur tros ward Gwpra Cei Connah, wrth golwg360. Mae wedi bod allan yn cnocio drysau gyda Jack Sargeant am y pythefnos diwethaf.

“Mewn rhai ardaloedd, er enghraifft Cei Connah, Shotton, Queensferry, mae gynnon ni gefnogaeth gref – cefnogaeth aruthrol. Mae [Jack Sargeant] yn ysgogi’r bobol leol, ac mae cefnogaeth yr etholaeth wedi bod yn aruthrol.

“Yr wythnos dwytha’, roedd y bobol wnaeth agor eu drysau yn ymateb yn bositif, felly rydan ni’n edrych ymlaen at fuddugoliaeth.”

 

Beth am yr hollt?

Ers i gorff Carl Sargeant gael ei ganfod yn crogi yn ei gartref ar Dachwedd 7, mae tensiynau wedi dod i’r amlwg rhwng arweinyddiaeth y blaid Lafur ym Mae Caerdydd ac aelodau llawr gwlad.

  • Mae yna ddadlau wedi bod ynglyn â’r modd y cafodd honiadau o gamymddwyn yn erbyn Carl Sargeant eu cyflwyno a’u trin gan y weinyddiaeth Lafur ym Mae Caerdydd;
  • Mae un arall o gyn-weinidogion Llywodraeth Cymru – Leighton Andrews – wedi bod yn chwyrn iawn ei feirniadaeth o’r modd y cafodd Carl Sargeant ei drin wedi i’r cyhuddiadau gael eu gwneud, ac mae wedi anelu ei fwledi yn bendant iawn i gyfeiriad Carwyn Jones;
  • Yng nghanol y dadlau a’r taflu baw, fe gafodd Prif Weinidog Cymru ei gynghori i beidio â mynd i angladd Carl Sargeant yng Nghei Connah ar Ragfyr 1.

Ond mae Martin White yn mynnu fod y blaid yn Alyn a Glannau Dyfrdwy wedi bod yn canolbwyntio ar yr isetholiad mewn modd “proffesiynol a ffantastig”.

“Faswn i’n dadlau yn erbyn yr honiad bod yna hollt,” meddai. “Mae Llafur Cymru yma bob dydd efo Jack. Maen nhw yma bob diwrnod yn cefnogi. Ymdrech unol ydi hon.

“Mi fydd yr ymchwiliadau amrywiol yn mynd i’r afael â’r hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol,” meddai Michael White wedyn. “Mi fydd y gwir yn dod i’r golau yn y pendraw… ac mae Jack mewn safle da i wneud yn siŵr bydd cyfiawnder yn cael ei wireddu.”

Canlyniad 2016

Yn etholiad y Cynulliad yn 2016, fe lwyddodd Carl Sargeant i ddal gafael ar sedd Alyn a Glannau Dyfrdwy gyda 45.7% o’r bleidlais.

Y Ceidwadwyr oedd yn yr ail safle ar 21% o’r fôt, ac UKIP yn drydydd ar 17.4%. Roedd Plaid Cymru yn y pedwerydd safle ar 9%; y Democratiaid Rhyddfrydol ar 4.5% a’r Blaid Werdd yn y safle olaf gyda 2.4% o’r bleidlais.