Mae dynes o Bowys wedi cael ei dedfrydu i ddwy flynedd o garchar am fod ym meddiant arfau anghyfreithlon – gan gynnwys pistol Natsïaidd.

Fe glywodd Llys y Goron Caerdydd heddiw sut yr oedd yr heddlu wedi canfod pum gwn a dros 700 o fwledi anghyfreithlon yn ffermdy Nigelle Von De Bar Baskerville, 55 oed, ger Llanfair-ym-Muallt ym mis Rhagfyr 2016.

Ymhlith yr arfau anghyfreithlon roedd tri llawddryll – a oedd tua 100 oed – a dau bistol, a oedd yn cynnwys Walther PPK 7.65.

Fe blediodd Nigelle Von de Bar Baskerville yn euog i bum cyhuddiad o fod ym meddiant dryll gwaharddedig, dau gyhuddiad o fod â bwledi anghyfreithlon, ac 20 cyhuddiad o fod â bwledi heb drwydded.

Cafodd ei dedfrydu i garchar am ddwy flynedd a gorchymyn i ddinistrio’r arfau.