Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi canmol llwyddiant cronfa newydd sy’n sicrhau bod cyffuriau newydd ar gael i gleifion ynghynt.

Cafodd y Gronfa Triniaethau Newydd ei sefydlu’r llynedd, a’r nod yw buddsoddi £80 miliwn yn ystod y pum mlynedd nesaf mewn sicrhau bod meddyginiaethau newydd sy’n newid bywydau pobol ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd cyn gynted â phosib.

Ac wrth ymweld ag Ysbyty Llandochau ger y Bont-faen heddiw, mae disgwyl i Carwyn Jones ddatgan mai’r amser y mae’n cymryd i gyffuriau newydd gyrraedd cleifion erbyn hyn yw 10 diwrnod – ymhell cyn y terfyn amser o 60 diwrnod.

“Tipyn o gamp”

Yn ôl Carwyn Jones, mae rhagori ar y targed o 60 diwrnod yn “dipyn o gamp”, ac yn gwneud “gwahaniaeth o bwys” i fywydau pobol.

“Mae’r buddsoddiad sylweddol hwn wedi dileu ansicrwydd ynghylch cyllid,” meddai, “ac fe fydd yn sicrhau bod Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn y sefyllfa orau i ddarparu’r meddyginiaethau diweddaraf a argymhellir.

“Mae llawer o’r rhain yn cynnig cam sylweddol ymlaen o ran trin clefydau lle mae dewisiadau triniaeth wedi bod yn brin, tan nawr.”