Fe fydd tua 180 o ddisgyblion a staff mewn ysgol uwchradd yn Rhuthun yn cael eu brechu yn dilyn achos o Hepatitis A mewn disgybl yn yr ysgol.

Fe fydd y sesiwn brechu yn cael ei gynnal ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 a staff addysgu a glanhau yn Ysgol Uwchradd Brynhyfryd.

Nid yw’r brechiad rhag Hepatitis A yn cael ei gynnig fel mater o drefn gan  y Gwasanaeth Iechyd oherwydd bod yr haint yn anghyffredin yn y Deyrnas Unedig.

Ond ers dechrau 2017, mae yna gynnydd wedi bod mewn achosion o Hepatitis A ledled gogledd Cymru, gyda’r un diweddaraf mewn disgybl yn Ysgol Brynhyfryd.

Mae’r ysgol yn cynnal y sesiwn brechu mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Pwysig “golchi dwylo”

Yn ôl Dr Christopher Johnson, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae haint Hepatitis A yn firws sydd ddim fel arfer yn para’n hir, ond sydd yn aml â symptomau “annymunol a difrifol”.

“Yn aml, dim ond salwch ysgafn fydd plant yn ei gael neu ni fydd ganddynt unrhyw symptomau o gwbl,” meddai.

“Gall symptomau gynnwys salwch tebyg i’r ffliw fel blinder, poenau cyffredinol, pen tost a thwymyn, yn ogystal â cholli archwaeth, cyfog neu chwydu, poen yn y bol, y clefyd melyn, troeth tywyll iawn a chroen coslyd.

“Y ffordd orau o atal y firws rhag lledu yw golchi dwylo’n dda ar ôl defnyddio’r toiled a chyn paratoi neu fwyta bwyd.”

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, ynghyd ag adran Iechyd yr amgylchedd Cyngor Sir Ddinbych yn parhau i ymchwilio i ffynhonnell yr haint.