Mae is-reolwr tîm pêl-droed Cymru, Osian Roberts, wedi cadarnhau ei fod wedi siarad â rheolwr newydd Cymru, Ryan Giggs, a bod y trafodaethau am ei ddyfodol yn parhau, yn ôl adroddiadau’r BBC.

 

Roedd Osian Roberts yn aelod o dîm hyfforddi Cymru yn ystod teyrnasiad Chris Coleman, ac roedd yn un o’r rhai – ynghyd â Craig Bellamy a Mark Bowen – a gafodd gyfweliad ar gyfer swydd rheolwr Cymru.

 

Ac mewn cyfweliad ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru heddiw, fe ddywedodd Osian Roberts ei fod eisoes wedi cwrdd â Ryan Giggs, a hynny er mwyn trafod os yw popeth yn “gweithio’n gywir” i’r rheolwr newydd.

 

“Mae Ryan a fi wedi bod yn trafod a’r peth pwysig ar y dechrau fel hyn yw fod pob dim yn gweithio’n gywir … i Ryan i ddechrau,” meddai.

 

“Rhaid sicrhau hefyd bod pethau yn gweithio i minnau. Nawn ni barhau efo’r trafodaethau a gweld sut mae pethau’n mynd.”

 

“Dim penderfyniad”

 

Ond hyd yn hyn, nid oes manylion am bwy fydd aelodau o’r tîm hyfforddi newydd wedi’u cadarnhau, ac ychwanegodd Osian Roberts nad oes angen “brysio” i wneud unrhyw benderfyniadau.

 

“Does dim angen brysio i unrhyw fath o benderfyniad,” meddai eto. “Y peth pwysig yw gwneud y penderfyniad cywir fel bod pêl-droed yn symud ymlaen.”

 

“Mi aeth y trafodaethau yn dda iawn. Cofiwch nid oes yr un dau hyfforddwr yn y byd yn mynd i gytuno ar bob dim – y peth pwysig yw cytuno ar egwyddorion a’r ffyrdd ymlaen.

 

“Mi fydd gweithio’n agos a chael perthynas dda yn hanfodol.”