Mae teithwyr yn ne a chanolbarth Cymru yn parhau i wynebu problemau yn sgil y glaw trwm a llifogydd ddoe (dydd Sul).

Yng Ngheredigion, mae ffordd yr A44 o Aberystwyth rhwng Llanbadarn Fawr a Gelli Angharad ynghau, ynghyd â’r B4337 yn Nhalsarn rhwng Llambed a Llanrhystud oherwydd bod yna ddŵr yn parhau ar y ffordd.

Mae trenau Arriva Cymru wedi cadarnhau nad oes yna drenau’n rhedeg rhwng y Porth a Threherbert oherwydd tirlithriad, a bod bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Maes Awyr Rhyngwladol Cymru a Phen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd sawl person eu hachub o’u cerbydau mewn sawl man neithiwr, wedi iddyn nhw fynd i drafferthion yn y dŵr.

Yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, fe gafodd dynes ei hachub o gar toc wedi 7yh, ac fe lwyddodd dyn yn Llancarfan, Bro Morgannwg, i ddianc mewn pryd wrth i lif y dŵr sgubo ei gar a’i wthio yn erbyn pont reilffordd.

Mae pum rhybudd llifogydd yn parhau mewn grym, yn enwedig yn ardaloedd y Borth yng Ngheredigion ac Ewenni.