Mae pedwar llu heddlu Cymru yn lansio ymgyrch newydd heddiw a fydd yn targedu’r gyrwyr hynny sy’n defnyddio eu ffôn symudol y tu ôl i’r olwyn.

Mae’r heddlu’n rhybuddio bod defnyddio ffôn symudol wrth yrru yn tynnu sylw’r gyrrwr ac yn gallu arwain at achosi anaf difrifol neu farwolaeth ar y ffordd.

Bwriad yr ymgyrch felly fydd targedu mannau problemus hysbys yng Nghymru er mwyn dal troseddwyr, ynghyd â gweithio ar y cyd â’r prosiect GanBwyll, sef y Bartneriaeth Camerâu Diogelwch, i addysgu pobol am y peryglon o ddefnyddio ffôn symudol wrth y llyw.

Mae’r ymgyrch yn mynd law yn llaw a’r Ymgyrch Snap a gafodd ei lansio fis Rhagfyr y llynedd, sy’n caniatáu aelodau o’r cyhoedd i gyflwyno darnau ffilm a delweddau sy’n dangos troseddau traffig yn cael eu cyflawni.

Un o’r “5 angheuol”

“Mae defnyddio dyfais symudol yn eich llaw wrth yrru’n tynnu eich sylw oddi ar y ffordd,” meddai’r Uwch-arolygydd Huw Meredith, o Heddlu Dyfed-Powys, “ac ynghyd ag yfed a gyrru, goryrru, peidio â gwisgo gwregys a gyrru diofal, mae’n un o’r ‘5 angheuol’; pumpachos mwyaf cyffredin gwrthdrawiadau traffig y ffyrdd.

“Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gyda GanBwyll er mwyn gwneud ein ffyrdd mor ddiogel â phosibl a lleihau nifer y gwrthdrawiadau ac anafiadau.

“Mae’r neges yn syml – peidiwch â mentro.”