Mae arweinydd UKIP yng Nghymru, Neil Hamilton wedi dweud ei fod yn cefnogi’r bleidlais o ddiffyg hyder yn yr arweinydd Prydeinig Henry Bolton – ac y dylai geisio “cymorth seicolegol”.
Aelodau’r blaid fydd yn cael penderfynu a ddylai’r arweinydd gael aros yn ei swydd, ond mae e’n dweud na fydd e’n ymddiswyddo ac y byddai ei orfodi o’i swydd yn ddiwedd ar y blaid.
Ond roedd y penderfyniad i gyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder yn unfrydol, ac mae hynny’n golygu y bydd y blaid gyfan yn cynnal cyfarfod cyffredinol brys er mwyn penderfynu a fyddan nhw’n derbyn neu’n gwrthod y bleidlais.
Rhaid cynnal cyfarfod o fewn 28 diwrnod, a bydd cadarnhad o fanylion y cyfarfod hwnnw’n cael eu cyhoeddi o fewn deng niwrnod.
Fe fu Henry Bolton dan y lach yn dilyn sylwadau hiliol gan ei gynbartner, Jo Marney am Meghan Markle, dyweddi’r Tywysog Harry.
Ymddiswyddo
Wrth ymateb, dywedodd Neil Hamilton: “Rwy’n cefnogi penderfyniad unfrydol y pwyllgor gwaith cenedlaethol i basio pleidlais o ddiffyg hyder yn Henry Bolton.
“Fe ddylai ymddiswyddo nawr o UKIP ar unwaith fel y gallwn fynd ati i ailadeiladu’r blaid heb dynnu rhagor o sylw.
“Os yw’n ein gorfodi ni i gynnal cyfarfod cyffredinol brys, bydd e ond yn ei fychanu ei hun ymhellach.
“Mae ei ymddygiad diweddar mor afresymol nes y dylai geisio cymorth seicolegol.”
Ychwanegodd ei fod yn cefnogi Gerard Batten neu Mike Hookem i fod yr arweinydd nesaf.