Mae rhybudd melyn i Gymru heddiw wrth i eira a rhew ledu ar draws y wlad.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gallai hyd at chwe centimetr o eira gwympo ar dir uwch na 200 metr (656 troedfedd), a hyd at dri chentimetr (1.1 modfedd) ar dir islaw hynny.

Mae’r rhybudd yn ei le yn Nghonwy, Dinbych, Gwynedd, Powys, Wrecsam a’r Fflint.

Fe fydd yn ei le tan 6 o’r gloch heno, a dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd faint o eira fydd yn cwympo.