Mae Heddlu Gogledd Cymru’n pryderu am ddiogelwch dynes ifanc Asiaidd sydd wedi bod ar goll o’i chartref yn Prestatyn ers dydd Llun.

Mae Jannatul Chadhury, 20 oed, yn hanu o Bangladesh, ac nid yw’n rhugl ei Saesneg.

Cafodd ei gweld ddiwethaf am 4 o’r gloch bnawn dydd Llun yng ngorsaf Caer, a chred ei theulu a’r heddlu ei bod wedi dal trên i Lundain.

“Rydym yn gynyddol bryderus am ei lles oherwydd ei bod yn anghyfarwydd â’r ardal ac yn methu sgwrsio’n dda yn Saesneg,” meddai Pc Kiera Williams ar ran Heddlu’r Gogledd.

“Mae’n hymholiadau’n dangos cysylltiadau posibl ag ardal Llundain, ond rydym yn apelio hefyd am gymorth y cyhoedd.”

Caiff ei disgrifio fel dynes Asiaidd, fain, 5’4” o daldra, â gwallt du hir iawn a llygad brown, ac mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un â gwybodaeth amdani i gysylltu â nhw ar http://www.north-wales.police.uk/contact/chat-support.aspx neu drwy ffonio 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 cyf. Itrace 19663