Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn gwario bron i dri chwarter miliwn o bunnoedd er mwyn diogelu pentref y Mwmbwls rhag llifogydd.

Mae’r Gweinidog Amgylchedd, Hannah Blythyn, wedi ymrwymo i roi £682,500 i’r pentref glan môr ger Abertawe, er mwyn cyfrannu at 75% o gost y gwaith o atal llifogydd yn y dyfodol.

Yn ôl Cyngor Abertawe, y ffordd orau o fynd i’r afael ag erydu arfordirol yn yr ardal yw gwella’r amddiffynfeydd arfordirol a lledu’r promenâd ar hyd traeth y Mwmbwls.

Mae arfarniad yn dweud y gallai’r gwaith ddiogelu hyd at 124 o adeiladau ar unwaith, ac y bydd 147 o adeiladau yn elwa ar y gwaith erbyn 2118, o ystyried effeithiau newid yn yr hinsawdd a’r cynnydd yn y môr.

Gwario £150 miliwn ledled Cymru

“Un o brif flaenoriaethau’r Llywodraeth yw lleihau’r perygl o lifogydd sy’n deillio o gynnydd yn lefel y môr a’r newid yn yr hinsawdd,” meddai Hannah Blythyn.

“Mae’r cyllid hwn a fydd yn cyfrannu at gost y gwaith dylunio yn helpu i sicrhau bod y Mwmbwls gam yn nes at gynllun sylweddol i warchod yr arfordir. Rwy’n siŵr y bydd y trigolion lleol a’r ymwelwyr yn croesawu cynllun o’r fath.

“Rydym yn cydweithio ag awdurdodau lleol arfordirol ar draws Cymru, gan fuddsoddi hyd at £150 miliwn er mwyn lleihau’r peryglon rydym yn eu hwynebu yn sgil cynnydd yn lefel y môr a’r newid yn yr hinsawdd.

“Mae’r cyllid hwn yn ategu’r buddsoddiad cyfalaf arall gwerth £151 miliwn mewn gwaith rheoli’r perygl llifogydd a fydd yn digwydd yn ystod cyfnod y Llywodraeth hon.”